ARIADNE

ARIADNE logo

Mae ARIADNE yn brosiect a ariennir gan FP7. Doug Tudhope yw'r Prif Archwiliwr, mae Ceri Binding ac Andreas Vlachidis yn Gymrodyr Ymchwil ar y prosiect ac mae Morgannwg yn arwain WP15 ar Gysylltu Data Archeolegol

Cefndir


Prosiect 4 blynedd yw ARIADNE (Seilwaith Ymchwil Uwch ar gyfer Rhwydweithio Setiau Data Archeolegol yn Ewrop) a gychwynnodd ym mis Chwefror 2013 ac a ariennir gan yr UE (eu 205,000 i Forgannwg). Mae'n brosiect seilwaith FP7 yr UE sy'n cynnwys 24 o bartneriaid.

Ar hyn o bryd mae setiau data digidol archeolegol ar gael o wahanol gyfnodau, parthau a rhanbarthau. Fodd bynnag, cyfyngir ar eu potensial gan anawsterau o ran mynediad a safbwyntiau nad ydynt yn homogenaidd.

Nodau


Nod ARIADNE yw integreiddio'r seilweithiau data ymchwil archaeolegol presennol fel bod ymchwilwyr yn gallu defnyddio'r amryw setiau data a ddosbarthwyd. Bydd ARIADNE yn galluogi ymchwilwyr i gael mynediad trawswladol i ganolfannau data, offer a chanllawiau, a chreu gwasanaethau newydd ar y we sy'n seiliedig ar ryngwynebau cyffredin i storfeydd data, y data sydd ar gael a'r defnydd o dechnolegau arloesol. Bydd yn ysgogi cyfleoedd ymchwil newydd ym maes archaeoleg, gan ddibynnu ar gymharu, ailddefnyddio ac integreiddio i mewn i ymchwil cyfredol o ganlyniadau gweithgareddau maes a labordy cyfredol a blaenorol.

Bydd cyfraniad Morgannwg yn adeiladu ar ganlyniadau prosiectau STAR a STELLAR a SENESCHAL, a ariennir gan yr AHRC. Bydd hyn yn cynnwys data cysylltiedig a gwaith gwasanaeth ar y we, ynghyd â phrosesu iaith naturiol i wella mynediad at lenyddiaeth lwyd archeolegol. Mae'r partneriaid yn cynnwys mwyafrif y gwasanaethau cenedlaethol Ewropeaidd presennol, a phartneriaid mewn gwledydd eraill sy'n gobeithio datblygu eu seilweithiau eu hunain.


Mae mwy o wybodaeth ar wefan ARIADNE.

Prif gyhoeddiadau'r prosiect

A study of semantic integration across archaeological data and reports in different languages (fersiwn awduron)

Binding, C., Tudhope, D. a Vlachidis, A. 31 Gorffennaf Jul 2018 Yn : Journal of Information Science. 23 t.

 

Enabling European Archaeological Research: The ARIADNE E-Infrastructure (mynediad agored)

Aloia, N. , Binding, C., Cuy, S. , Doerr, M. , Fanini, B. , Felicetti, A. , Fihn, J. , Gavrilis, D. , Geser, G. , Hollander, H. , Meghini, C. , Niccolucci, F. , Nurra, F. , Papatheodorou, C. , Richards, J. , Ronzino, P. , Scopigno, R. , Theodoridou, M., Tudhope, D. ,  Vlachidis, A., Wright H. 2017 Internet Archaeology. 43