Bydd y grŵp ymchwil Hypergyfryngau yn parhau â'u cyfraniadau ar fapio geirfa a data cysylltiedig, gan adeiladu ar ganlyniadau prosiectau STAR, STELLAR a SENESCHAL a ariannwyd gan yr AHRC. Bydd hyn yn cynnwys gwaith Data Cysylltiedig a Gwasanaethau ar y We, ynghyd â phrosesu iaith naturiol i wella mynediad at lenyddiaeth lwyd archeolegol. Mae'r partneriaid yn cynnwys mwyafrif y gwasanaethau cenedlaethol Ewropeaidd presennol, a phartneriaid mewn gwledydd eraill sy'n gobeithio datblygu eu seilweithiau eu hunain.